Hawlfraint© 2018            Ymwadiad          Hygyrchedd        Llun y pennawd: Village de Livres by Marie Montard       Cynllun y wefan: IHBS Ltd

Contact

Home Home Home French Home Welsh contact

Alison Layland


Cefais fy magu yn Bradford, Sir Efrog, a dwi wedi byw mewn amryw lefydd o gwmpas Prydain cyn symud i Sir Drefaldwyn yn 1997, lle dwi’n byw gyda fy ngŵr a dau o blant yn eu harddegau.


Graddiais mewn Astudiaethau Eingl-Sacsonaidd, Nordig a Cheltaidd ac Ieithoedd Modern a Chanoloesol ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ar ôl cyfnod byr yn gyrru tacsis, gweithiais am sawl blwyddyn fel tirfesurydd siartredig cyn dychwelydd at yr hyn sy’n mynd â fy mryd yn bennaf – ieithoedd – i ddechrau fy ngyrfa fel cyfieithydd. Ar ôl dechrau dysgu’r Gymraeg, enillais cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Môn 1999, ac yna yn 2002 enillais cystadleuaeth y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Choron Eisteddfod Powys ar gyfer casgliad o straeon byrion. Dwi’n aelod o Orsedd y Beirdd a Gorsedd Eisteddfod Powys.


Dwi’n cyfieithu ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddwyr ac asiantaethau o’r Almaeneg, Ffrangeg a Chymraeg i fy mamiaith, Saesneg – o weithiau creadigol i ddogfennau gwybodaeth arbenigol – a dwi wedi dechrau dysgu’r iaith Croateg yn sgil fy ymchwil ar gyfer fy nofel gyntaf, Someone Else’s Conflict.