Hawlfraint© 2018            Ymwadiad          Hygyrchedd        Llun y pennawd: Village de Livres by Marie Montard       Cynllun y wefan: IHBS Ltd

Contact

Home Home Home French Home Welsh contact

Alison Layland, MITI


Mae gen i mwy na 20 mlynedd o brofiad fel cyfieithydd proffesiynol ar fy liwt fy hun. Dwi’n darparu cyfieithiadau o ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o asiantaethau, cwmnïau a chyhoeddwyr. Gan gyfieithu o’r Almaeneg, Ffrangeg a’r Gymraeg i fy mamiaith, Saesneg, dwi’n aelod llawn o’r ITI a’r Society of Authors.


Yn fy ngyrfa gyntaf bûm yn dirfesurydd siartredig, a dwi hefyd yn awdur ffuglen cyhoeddedig. Dwi’n tynnu ar y sgiliau pwysig a ddysgais yn y meysydd hyn, sy’n fy helpu i drosglwyddo cywair y gwaith gwreiddiol wrth gyfieithu, boed yn ddogfen i ddarparu gwybodaeth ymarferol sy’n gofyn am gywirdeb, manylder a dealltwriaeth technegol, neu’n waith llenyddol lle mae mynd at galon llais yr awdur yn hollbwysig.


Mae fy mhrif  meysydd arbenigo yn cynnwys: cyfieithu llenyddol, teithio a thwristiaeth, marchnata, adeiladu a phensaernïaeth, dogfennau busnes, cytundebau. Mae fy nghleientiaid yn cynnwys asiantaethau cyfieithu, cyhoeddwyr, byrddau croeso, cwmnïau gwyliau, cwmnïau adeiladu, cwmnïau peirianneg sifil a gwneuthurwyr amrywiol.


Gwybodaeth dechnogeol: dwi’n defnyddio’r meddalwedd cof cyfieithu MemoQ i sicrhau cysondeb a chywirdeb.


Enillais Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu – Oxfam Cymru 2010 gyda fy nghyfieithiad o stori fer gan awdur o Haiti, Yanick Lahens, a ches fy nghomisiynu wedyn i gyfieithu ei nofel hi The Colour of Dawn (La Couleur de l’Aube). Cymerais ran unwaith eto yn yr Her Gyfieithu yn 2012, ar gyfer y prosiect diddorol 26 Treasures. Mae fy nghyfieithiad o gerdd gan Tony Bianchi yn y gyfrol hyfryd hon.


Os gallaf eich helpu gyda’ch anghenion cyfieithu, anfonwch ebost ataf ar info@alayland.uk

Rhai o fy ngweithiau cyfieithu cyhoeddedig:

Madness Came with the Rain by Yanick Lahens