Hawlfraint© 2018 Ymwadiad Hygyrchedd Llun y pennawd: Village de Livres by Marie Montard Cynllun y wefan: IHBS Ltd
Contact
Llenydda
Cyhoeddir fy nofel gyntaf, Someone Else’s Conflict, gan Honno Gwasg Menywod Cymru, ond mae stori fy myd creadigol yn mynd yn ôl cryn dipyn.
Eich siop lyfrau leol
Cewch brynu'r nofel gan y cyhoeddwr, Honno
Ers imi gofio dwi wedi adrodd straeon yn fy mhen; dim ond fel oedolyn y dechreuais eu hysgrifennu i bawb gael eu gweld! Bu cychwyn fy ysgrifennu creadigol yn sgil dysgu’r Gymraeg, yng ngwersi gyda’r Prifardd Cyril Jones, ac yn yr iaith honno bu fy ngweithiau cyntaf. Enillais gystadleuaeth y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002, Coron Eisteddfod Powys yn yr un flwyddyn, a dwy gystadleuaeth lên meicro yng nghylchgrawn Golwg tua’r un pryd. Mae fy ngwaith (adolygiadau, stori fer, straeon meicro) wedi ymddangos yng nghylchgrawn lenyddol Taliesin, ac mae ambell ddarn gen i yn y casgliad Corachod Digartref, gol. Sian Northey.
Ar achlysur dyfodiad yr Eisteddfod i’n hardal ni yn y flwyddyn 2003, cyhoeddodd grŵp ohonon ni gyfrol ddifyr o straeon a cherddi, Gwerth Chwech. Mae copïau ar gael o hyd – cewch brynu un am y pris bargen o £5 (gan gynnwys costau postio) – pob elw yn cael ei rannu rhwng Hen Gapel John Hughes a Thŷ Gobaith Cymru – trwy gysylltu â mi.
Siop lyfrau Booka, Croesoswallt.