Cefais fy magu yn Bradford, Sir Efrog, a dwi wedi byw mewn amryw lefydd o gwmpas Prydain cyn symud i Sir Drefaldwyn yn 1997. Symudais i’r Waun yn 2015, ac wedyn i Ynys Môn yn 2024, lle dwi’n byw ar lannau’r Fenai.

Graddiais mewn Astudiaethau Eingl-sacsonaidd, Nordig a Cheltaidd ac Ieithoedd Modern a Chanoloesol ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ar ôl cyfnod byr yn gyrru tacsis, gweithiais am sawl blwyddyn fel tirfesurydd siartredig cyn dychwelydd at yr hyn sy’n mynd â fy mryd yn bennaf – ieithoedd – i ddechrau fy ngyrfa fel cyfieithydd. Ar ôl dechrau dysgu’r Gymraeg, enillais gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Môn 1999, ac yna yn 2002 enillais gystadleuaeth y stori fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Choron Eisteddfod Powys ar gyfer casgliad o straeon byrion. Dwi’n aelod o Orsedd y Beirdd a Gorsedd Eisteddfod Powys.

Dwi wedi bod yn cyfieithu o’r Almaeneg, Ffrangeg a Chymraeg i’r Saesneg ers y 1990au; mae fy nghyfieithiadau’n cynnwys nifer o nofelau arobryn a phoblogaidd. Gan adeiladau ar fy negawdau o brofiad cyfieithu ac ysgrifennu, dwi bellach yn cynnig gwasanaethau golygu creadigol (yn Saesneg).

Pan na fydda i wrth y ddesg, dwi’n ymgyrchydd dros yr amgylchfyd a materion cymdeithasol, a dwi’n mwynhau cerdded, crefftau, garddio, fforio a ffotograffiaeth (tynnais yr holl luniau ar y wefan hon).

Scroll to Top